Mae Cyfri’n Cewri yn dathlu bywyd a gwaith mathemategwyr a gysylltir â Chymru. Pan gyfansoddwyd yr anthem genedlaethol ym 1856, roedd Cymru ym merw y Chwyldro Diwydiannol, gyda chymdeithasau gwyddonol yn codi fel madarch ar hyd a lled y wlad. Erbyn diwedd y ganrif, roedd ein dehongliad o’n diwylliant fel un sy’n cynnwys y gwyddorau yn ogystal â’r celfyddydau wedi culhau i gynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth a chrefydd ar draul bron i bopeth arall. Yn dilyn poblogrwydd ei gyfrol Mae Pawb yn...